Cwricwlwm | Curriculum
Ysgol Bro Brynach: Trosolwg Cwricwlwm
Fel ysgol, rydym yn cynllunio cwricwlwm newydd yn y broses barhaus o godi safonau. Nid ydym yn datgan ein bod wedi perffeithio na chwblhau pob agwedd. Fodd bynnag, mae rhai gofynion cyfreithiol sydd angen cyflawni wrth gyflwyno ein cwricwlwm.
Cyd-destun yr Ysgol
Lleolir Ysgol Bro Brynach ym mhentref gwledig Llanboidy sydd i’r gogledd o Hendygwyn-ar-daf ac o fewn ffiniau Sir Gaerfyrddin. Enwyd yr ysgol yn Ysgol Bro Brynach oherwydd hanes Sant Brynach sydd ynghlwm ȃ’r ardal. Agorwyd Ysgol Bro Brynach yn 2004 mewn adeilad newydd gyda chyfleusterau pwrpasol ar ol cau pedair ysgol lleol. Mae tua 90 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol erbyn hyn gan ddechrau eu haddysg yn y dosbarth Meithrin. Mae’r ysgol yn ysgol ardal gyda phlant yn dod o gymunedau Cwmbach, Henllan Amgoed, Llanboidy a Llangynin.
Mae gan yr ysgol bedwar dosbarth, llyfrgell, ystafell ymyraethau a neuadd. Mae mannau chwarae a chae ar dir yr ysgol gan gynnwys ystafell dysgu awyr agored a gardd. Yn ogystal ar safle’r ysgol, mae’r hen ysgol sy’n adeilad rhestredig gradd 2. Adeiladwyd yr Ysgol Gynradd ym 1863-4 ar draul W.R.H. Powell, Maesgwyn i ddarparu addysg i blant lleol. Heddiw, defnyddir yr adeilad fel neuadd a ffreutur. Hefyd, defnyddir adnoddau y pentref i gyfoethogi dysgu’r disgyblion a chynnig profiadau gwerthfawr tu hwnt i safle’r ysgol.
Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol. Yn y dosbarthiadau Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 y Gymraeg yw unig cyfrwng y dysgu. Yn y dosbarthiadau Iau, Blwyddyn 3-6, defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg fel cyfrwng dysgu gyda’r nod o alluogi’r disgyblion i ddod yn gwbl ddwyieithog erbyn amser trosglwyddo i’r ysgol uwchradd.
Ein nod yw arwain, annog a meithrin sgiliau gan ddarparu profiadau mewn awyrgylch hapus a gofalgar lle gall yr holl ddysgwyr gael eu cefnogi, eu hysgogi a’u herio i gyrraedd eu llawn botensial.
Lleoliad yr Ysgol
Mae Ysgol Bro brynach wedi’i lleoli mewn lleoliad darluniadwy ym mhentref Llanboidy ac yn agos at Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro a Mynyddoedd y Preseli, sy’n cynnig nifer o fanteision ar gyfer cyfoethogi profiadau dysgu’r disgyblion.
Mae’r amgylchoedd naturiol yn darparu amgylchedd cyfoethog ac amrywiol ar gyfer dysgu yn yr awyr agored. Mae tir yr ysgol, sy’n cynnwys ardal wyllt a gerddi, yr ardal leol, yr arfordir a‘r parciau tu hwnt yn cynnig digon o gyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dysgu a llesiant sy’n seiliedig ar natur a’r amgylchedd. Gall ddisgyblion archwilio cynefinoedd lleol, dysgu am wahanol ecosystemau, a chymryd rhan mewn astudiaethau maes i ddatblygu eu dealltwriaeth o’u milltir sgwar. Gallant hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol fel heicio, cyfeiriannu, a chwaraeon awyr agored, gan hybu lles corfforol a gwerthfawrogiad o fyd natur.
Yn ogystal, mae lleoliad Ysgol Bro Brynach yn arddangos agweddau ar hanes a diwylliant Cymru. Mae hanes cyfoethog ar garreg y drws megis olion castell mwnt a beili, gwaith y cerflunydd enwog Syr William Goscombe a’r tirfeddiannwr a gwleidydd Rhyddfrydol Howell Powell. Yn ogystal, gall ddisgyblion ymweld â thirnodau hanesyddol cyfagos, megis cestyll, adfeilion, a safleoedd archeolegol, i ddysgu am dreftadaeth gyfoethog Cymru a’i phobl. Gallant hefyd ymgysylltu â’r gymuned leol a dysgu o ddoethineb trigolion lleol sy’n gallu rhannu straeon, chwedlau, ac arferion traddodiadol, gan feithrin ymdeimlad o hunaniaeth ddiwylliannol a balchder ymhlith y disgyblion.
Hefyd, mae’r ardal leol yn cynnig cyfleoedd ar gyfer profiadau dysgu ymarferol yn ymwneud ag amaethyddiaeth a ffermio, cynaliadwyedd, tyfu bwyd, gofalu am yr amgylchedd a menter a busnes.
Yn ychwanegol, mae lleoliad yr ysgol yn darparu cyfleoedd ar gyfer ymgysylltu cymunedol a dysgu cymdeithasol. Gall ddisgyblion gymryd rhan mewn prosiectau cymunedol lleol, mentrau gwirfoddoli, a digwyddiadau cymdeithasol, gan hyrwyddo cyfrifoldeb dinesig ac ymwybyddiaeth gymdeithasol. Gallant hefyd ryngweithio â’r cymunedau amrywiol yn yr ardal, dysgu am wahanol ddiwylliannau, ieithoedd, a thraddodiadau, a datblygu sgiliau rhyngbersonol, empathi, a pharch at amrywiaeth.
Yn gyffredinol, mae lleoliad Ysgol Bro Brynach yn cynnig amgylchedd dysgu unigryw a chyfoethog sy’n integreiddio natur, hanes, diwylliant ac ymgysylltiad cymunedol. Mae’n galluogi disgyblion i gysylltu â’u hamgylchedd, meithrin cariad at eu treftadaeth, a datblygu dealltwriaeth gyfannol o’r byd o’u cwmpas, gan gyfoethogi eu profiad addysgol cyffredinol.
Ein Gweledigaeth
“Ein nod yw arwain, annog a meithrin sgiliau gan ddarparu profiadau mewn awyrgylch hapus a gofalgar lle gall yr holl ddysgwyr gael eu cefnogi, eu hysgogi a’u herio i gyrraedd eu llawn botensial.”
Ein Gwerthoedd
Dyma’r nodau a dyheadau cafodd eu creu gan blant Ysgol Bro Brynach:
- hapus
- diogel
- ymchwilgar…
Amcanion Cyffredinol Ysgol Bro Brynach
- Prif amcan ein hysgol yw sicrhau bod pob plentyn yn hapus yma a bod pob disgybl yn cyflawni ei botensial yn ddeallusol, yn gorfforol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol.
- Helpu’r disgyblion i ddatblygu meddyliau bywiog, ymchwilgar, gyda’r gallu i gwestiynu a thrafod yn rhesymegol.
- Datblygu diddordeb, gwybodaeth a sgiliau disgyblion mewn Llythrennedd, Rhifedd, Technoleg Gwybodaeth ac yn y byd o’u cwmpas.
- Dysgu’r disgyblion i weithio gyda’i gilydd a chreu goddefgarwch ym mhob plentyn tuag at eraill waeth beth fo’u cefndir, eu lliw a’u cred.
- Creu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad o’r amgylchedd, iaith, diwylliant ac ardal a sicrhau bod etifeddiaeth Gymraeg yn cael ei chyflwyno i bob plentyn.
- Rhoi dealltwriaeth i blant o werthoedd moesol.
- Creu ymwybyddiaeth yn y plentyn o’r angen am hylendid personol,diet iach, cwrteisi a cheisio meithrin hunan-barch at eraill a datblygu agweddau a gwerthoedd cryf.
- Dysgu’r disgyblion am y Beibl a’r credoau Cristnogol wrth ystyried yr holl brif grefyddau a gynrychiolir yng Nghymru.
- Gweithio’n agos gyda’r rhieni a’r gymuned er budd y plentyn.
- Sicrhau bod pob disgybl yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau corfforol a chreadigol er mwyn datblygu doniau a sgiliau unigol.
Gweldigaeth ein Cwricwlwm
Yn Ysgol Bro Brynach, mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio i danio brwdfrydedd pob disgybl, gan roi iddynt y sylfaen angenrheidiol i ragori mewn byd sy’n newid yn barhaus. Ymdrechwn i feithrin cariad gydol oes at ddysgu a fydd yn eu cefnogi gydol eu hoes.
Mae lles ein disgyblion wrth wraidd ein dull addysgol. Mae gweledigaeth ein cwricwlwm wedi’i seilio ar werthoedd a thraddodiadau Cymru, gan roi blaenoriaeth i lythrennedd, rhifedd a medrau digidol fel sgiliau bywyd sylfaenol. Credwn fod y rhain yn hanfodol er mwyn i bob plentyn lwyddo mewn ymdrechion addysgol yn y dyfodol.
Mae profiadau dysgu ymarferol ac awyr agored yn rhan allweddol o’n cwricwlwm, gan alluogi disgyblion i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n berthnasol i’w diddordebau a’u hanghenion. Rydym yn addasu ein dulliau addysgu i gynnig cyfleoedd i blant ddatblygu sgiliau ac archwilio cysyniadau newydd, gan adeiladu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth trwy themau pwrpasol sy’n ysgogi eu dychymyg a’u creadigedd.
Anelwn at fagu hyder yn ein disgyblion, gan eu galluogi i wneud penderfyniadau meddylgar. Ein cenhadaeth yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen ar bob disgybl i wynebu heriau’r dyfodol a pharhau i ddysgu drwy gydol eu hoes.
Ein Cwricwlwm Gynhwysol
Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Y Pedwar Diben
Y pedwar diben yw man cychwyn a dyhead ein cynllun cwricwlwm ysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod yn:
- dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- cyfranwyr mentrus, creadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Mae gennym gymeriadau er mwyn helpu hyrwyddo’r Pedwar Diben datblygwyd gan ddisgyblion yr ysgol.
Datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â Cwricwlwm i Gymru.
Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu trwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Mathemateg a Rhifedd
- Iechyd a Lles
Dysgu, Dilyniant ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy’n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol. Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i’r ysgol.
Cyfrwng Iaith
Mae Ysgol Bro Brynach yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg ac yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym Mlwyddyn 3.
Sgiliau Trawsgwricwlaidd
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
- datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
- bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd.
CCUHP – Hawliau Plant
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy’n darparu addysgu a dysgu.
CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith
Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh
Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio’r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae’r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.
Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru
Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae’r maes llafur cytûn yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu’r canllawiau hyn.
Adolygu a Mireinio
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau’n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os
gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.