Llysgenhadon Efydd

Pob blwyddyn rydym yn dewis llysgenhadwyr efydd i hybu ac annog disgyblion yr ysgol i fod yn actif a chymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.

Fel llysgenhadon maent yn fodel rôl sydd hefyd yn hybu gwerthoedd cadarnhaol chwaraeon ac yn cynrychioli lleisiau’r disgyblion ar faterion chwaraeon ac ymarfer corff o fewn yr ysgol.

Llongyfarchiadau i Eli, Efan, Charlie a Carys, ein Llysgenhadon Efydd am 2022-2023.

Maen nhw wedi bod yn brysur yn barod yn trefnu amserlen o weithgareddau a bydd pob dosbarth, yn ei tro, yn cael cyfle i gymryd rhan yn ystod yr awr ginio.